Y Goruchaf Lys
Ym mis Hydref 2009, bydd y Goruchaf Lys yn disodli Pwyllgor Apeliadol Ty’r Arglwyddi fel y llys uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Bydd 12 Ustus y Goruchaf Lys yn cynnal y safonau uchaf a osodwyd gan y Pwyllgor Apeliadol, ond yn awr bydd yn amlwg ar wahân i'r Llywodraeth a'r Senedd.
Bydd y Llys yn gwrando ar apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol o’r pwysigrwydd mwyaf i’r cyhoedd y gellir dadlau yn eu cylch, ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd mewn achosion sifil, ac ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn achosion troseddol.
Yn ogystal, bydd yn gwrando ar achosion ar faterion datganoli dan Ddeddf yr Alban 1998, Deddf Gogledd Iwerddon 1988 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Trosglwyddwyd yr awdurdodaeth hon i’r Goruchaf Lys o Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor.
Bydd y Goruchaf Lys yn eistedd yng nghyn adeilad Guildhall Middlesex, ar ochr orllewinol Parliament Square.
Mae’r lleoliad newydd hwn yn arwyddocaol iawn o wahanu pwerau’r Deyrnas Unedig, gan gydbwyso’r farnwriaeth a’r corff deddfwriaethol ar draws ehangder Parliament Square, gyda’r adran weithredol (adeilad y Trysorlys) a’r eglwys (Abaty Westminster) ar y ddwy ochr arall.